#

Deiseb P-05-737: Achubwch ein bws

 

Y Pwyllgor Deisebau | 14 Chwefror 2017

Petitions Committee | 14 February 2017

 

Petitions Committee | 29 June 2016

 

 

 
 

 

 

 

 


Briff Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-737

Teitl y ddeiseb: Achubwch ein bws

Testun y ddeiseb: Newydd ddod i ddeall heddiw bod y bws rydw i’n ei ddefnyddio’n rheolaidd o Gilfach Goch i Bontypridd yn diflannu. Ym mis Ionawr 2016 dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i wella ansawdd gwasanaethau bws lleol a’u gwneud yn fwy hygyrch. Mae pobl hŷn, pobl dlotach a phobl ag anableddau yng Ngilfach Goch sy’n defnyddio’r bws hwn, a gall wneud y gwahaniaeth rhwng teithio o le i le a theimlo’n gaeth. Felly achubwch y 150 i BONTYPRIDD !!!!![MA(-RS1] 

Cefndir

Dadreoleiddio gwasanaethau bws lleol

Cafodd gwasanaethau bws lleol ym Mhrydain Fawr, ac eithrio Llundain, eu dadreoleiddio gan y Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (fel y'i diwygiwyd) ('y Ddeddf').  Polisi'r Ddeddf yw y bydd gwasanaethau bws lleol fel arfer yn cael eu darparu ar sail fasnachol, heb gymhorthdal gan ​​awdurdod lleol.  Yn hynny o beth mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau yng Nghymru yn rhai masnachol a gellir eu cofrestru (neu ddadgofrestru/amrywio) gan y cwmni bysiau, fel arfer gyda 56 diwrnod o rybudd i'r Comisiynydd Traffig.

Mae Adran 63(1) o'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar gynghorau sir i sicrhau gwasanaethau (pwyslais wedi'i ychwanegu isod):

(1) Ym mhob sir anfetropolitan yng Nghymru a Lloegr bydd yn ddyletswydd ar y cyngor sir -

(a) i sicrhau darpariaeth gwasanaethau cludiant teithwyr cyhoeddus y mae'r cyngor yn eu hystyried yn briodol er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni unrhyw ofynion cludiant cyhoeddus o fewn y sir na fyddent yn eu barn hwy yn cael eu bodloni oni bai am unrhyw gamau a gymerwyd ganddynt at y diben hwnnw.

Mae'r gwasanaethau "cymdeithasol angenrheidiol" hyn yn cael eu caffael gan awdurdodau lleol trwy dendr.

Mae'r ddyletswydd yn cael ei gymhwyso yng Nghymru a Lloegr gan adran 63(5)(a) sy'n dweud bod eu pwerau i lunio cytundeb i roi cymhorthdal ​​i wasanaethau "yn arferadwy dim ond lle na fyddai'r gwasanaeth dan sylw yn cael ei ddarparu, neu na fyddai'n cael ei ddarparu i safon benodol, heb gymhorthdal​​" (pwyslais wedi'i ychwanegu).

Newidiadau i'r gwasanaeth 150 (Pontypridd i Gilfach Goch)

Roedd Stagecoach yn gweithredu'r gwasanaeth 150 bob 15 munud rhwng Gilfach Goch a Phorth gan ymestyn ddwywaith yr awr o Borth i Bontypridd.  Hysbysodd y cwmni y Comisiynydd Traffig o'i fwriad i wneud newidiadau i'r gwasanaeth ym mis Hydref 2016. Ymddangosodd hysbysiad am y newid ar wefan Llywodraeth y DU, wedi'i gyhoeddi yn hysbysiadau a thrafodion y Comisiynydd Traffig  ar gyfer 20 Hydref 2016 (PDF 370KB), fel cais i amrywio gwasanaeth presennol.  Daeth y newid i rym o 4 Rhagfyr 2016.

Mae Stagecoach wedi rhoi manylion i'r Gwasanaeth Ymchwil am y newidiadau i'r gwasanaeth a'i resymeg mewn perthynas â'r newidiadau. Mae'n nodi bod y rhain o ganlyniad i ostyngiadau mewn teithwyr a refeniw ac yn dilyn adolygiad o'r gwasanaeth a oedd, yn ôl Stagecoach, yn darparu "cefndir cryf ar gyfer addasu adnoddau i weddu'n well i'r farchnad a chadw'r gwasanaeth bws hwn ar gyfer y dyfodol" yn cynnwys cael gwared ar ddyblygu ar y rhan o'r daith rhwng Porth a Phontypridd sydd hefyd yn cael ei gwasanaethu gan y gwasanaethau 120, 130 a 132.  Mae Stagecoach yn disgrifio'r newid fel a ganlyn:

nid yw unrhyw wasanaeth wedi cael ei dynnu'n ôl, yn hytrach mae'r amlder [o Gilfach Goch] wedi cael ei leihau o bob 15 munud i bob 20 munud ac mae'r gwasanaeth wedi'i gwtogi ym Mhorth yn hytrach na Phontypridd gyda gwasanaethau eraill [120, 130 a 132] yn cynnig 11 o deithiau yr awr rhwng Porth a Phontypridd. Mae cwsmeriaid sy'n newid bysiau yn y Porth ar gyfer Pontypridd yn gwneud hynny ar yr un safle bws gyda thocynnau drwodd.

Mae'r gwasanaeth 150 yn cael ei ddarparu heb gymhorthdal ​​awdurdod lleol. Mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet at y Cadeirydd ynghylch y ddeiseb hon yn tynnu sylw at y ffaith bod penderfyniadau gwasanaeth yn fater masnachol i'r cwmni bysiau, oni bai ei fod yn derbyn cymhorthdal.  Aiff ymlaen i ddweud:

Yn yr achos hwn, byddai'n fater i Gyngor Rhondda Cynon Taf i ystyried a yw'n dymuno ariannu yn gyhoeddus y gwaith o gadw estyniad Pontypridd a'r amledd blaenorol o 15 munud.

Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru

Polisi Bysiau

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, Symud Cymru Ymlaen 2016-2021, yn cynnwys ymrwymiad i "[d]darparu rhwydwaith mwy effeithiol o wasanaethau bws unwaith y bydd y pwerau wedi'u datganoli gan Fil Cymru".[HE(-RS2] 

At hynny, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates AC, ddatganiad ysgrifenedig ar 15 Medi yn nodi ei fod yn awyddus i ddarparu rhwydwaith bysiau yng Nghymru sy'n sefydlog neu'n cynyddu, gan nodi cynllun pum pwynt i gynorthwyo'r diwydiant bysiau i fod yn fwy cynaliadwy. Roedd hyn yn cynnwys:[HE(-RS3] 

§    Cynnig cymorth i'r holl gwmnïau bysiau yng Nghymru trwy Busnes Cymru a Chyllid Cymru;

§    Gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi gwasanaethau bws sy'n agored i niwed a sefydlu strategaethau i ymateb i achosion a gynlluniwyd o ddileu gwasanaethau bysiau;

§    Gweithio gydag awdurdodau lleol Caerdydd a Chasnewydd a'u cwmnïau bysiau trefol i "gasglu gwybodaeth ar sut y gellir gweithredu rhwydweithiau bysiau cynaliadwy tra'n cynnal y difidend cymdeithasol";

§    Ariannu dwy swydd cydlynydd bysiau yng ngogledd a de Cymru; a

§    Cynnal uwchgynhadledd bws (a gynhaliwyd yn ddiweddarach ar 23 Ionawr 2017).

Cyllid

Fel mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol Cymru i gefnogi gwasanaethau bysiau, trwy'r Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau (BSSG). Mae'r grant hwn a'i ragflaenydd, y Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol, wedi'u rhewi ar £25 miliwn ers 2013-14, sy'n doriad mewn termau real.

Mae canllawiau BSSG Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 yn disgrifio diben y grant fel "cefnogi gwariant awdurdodau lleol drwy arfer eu pwerau o dan y ddeddfwriaeth berthnasol", gan gynnwys "cefnogi a chynnal y rhwydwaith bysiau strategol craidd yn eu hardal i wella cysylltedd". Hefyd, mae awdurdodau lleol yn gallu cefnogi gwasanaethau bysiau sy'n "angenrheidiol yn gymdeithasol" drwy eu cyllid refeniw craidd.

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Nid yw'r mater hwn wedi cael ei ystyried eto gan y Cynulliad.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 


 [MA(-RS1]Cymraeg:

Newydd ddod i ddeall heddiw bod y bws rydw i’n ei ddefnyddio’n rheolaidd o Gilfach Goch i Bontypridd yn diflannu. Ym mis Ionawr 2016 dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi ymrwymo i wella ansawdd gwasanaethau bws lleol a’u gwneud yn fwy hygyrch. Mae pobl hŷn, pobl dlotach a phobl ag anableddau yng Ngilfach Goch sy’n defnyddio’r bws hwn, a gall wneud y gwahaniaeth rhwng teithio o le i le a theimlo’n gaeth. Felly achubwch y 150 i BONTYPRIDD !!!!

 [HE(-RS2]http://gov.wales/about/programme-for-government/?skip=1&lang=cy

 [HE(-RS3]http://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2016-new/localbusservice/?skip=1&lang=cy